Swydd Arweinydd yr Adran Bioleg
CAD 2b
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi athro/awes brofiadol ac ymroddgar i swydd llawn amser, barhaol fel Arweinydd yr Adran Bioleg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Mae hon yn rôl bwysig i ddatblygu ar y cyd gydag arweinwyr eraill, adran a maes gwricwlaidd boblogaidd a hynod lwyddianus o fewn y gyfadran Wyddoniaeth.
Mae’r adran yn eithriadol o llwyddiannus a phoblogaidd yn TGAU a Safon Uwch gan ddenu niferoedd cryf i astudio o fewn y pwnc, ble mae’r canlyniadau dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn ardderchog. Yn anad dim, mae’r adran yn cyfrannu at waith cydlynus, effeithiol a brwdfrydig yr Adran Wyddoniaeth gan gynnig profiadau cyffrous a chymhellgar i fyfyrwyr o fewn y MDaPh. Dyma adran sy’n falch iawn o’r niferoedd uchel sy’n dewis astudio Gwyddoniaeth Driphlyg yn TGAU ac yn parhau i astudio Bioleg fel pwnc Safon Uwch yn y Chweched Dosbarth, ble mae’r canlyniadau dros gyfnod estynedig wedi bod yn arbennig o dda. Mae’r ysgol yn frwdfrydig i ymestyn cyfleoedd a chyrsiau o fewn y maes i’r dyfodol gan ehangu cyfleoedd i addysgu yn CA5 a’r cyrsiau sydd ar gael i fyfyrwyr yn y Chweched. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gweledigaeth glir o egwyddorion Dysgu ac Addysgu dynamig a blaengar a’r sgiliau rhyngbersonol i arwain tîm effeithiol a brwdfrydig. Mae’r adran yn frwdfrydig i gynnig profiadau gwerthfawr yn maes Gwyddoniaeth ac yn pwysleisio’r ehangder cyfleoedd sydd o ran dewis llwybr astudio a gyrfa o fewn y gwyddorau. Byddwch yn ymuno â thîm brwdfrydig ac effeithiol o fewn y gyfadran, sy’n hwyluso gwaith ei gilydd mewn ysbryd cymhellgar a brwdfrydig. Yn ogystal mae'r adran yn flaengar iawn i sicrhau profiadau allgyrsiol sy'n herio a chyfoethogi profiadau addysgol y disgyblion. Byddai gallu cyfrannu at y ddarpariaeth eang hon yn fantais arbennig.
Yn sgîl taith yr ysgol, rydym yn frwdfrydig i weld sut gallwn ddatblygu ymhellach ar gyfer ein plant a phobl ifanc yn sgil datblygiadau Cwricwlwm i Gymru. Bydd yn allweddol i ddatblygu profiadau addysgol gwerthfawr i ddatblygu galluoedd, brwdfrydedd a dealltwriaeth disgyblion yn gydlynus ac yn greadigol i’r dyfodol.
Yn sicr, mae’r swydd a’r ysgol yn cynnig datblygiad gyrfa cyffrous ac unigryw. Er fod y swydd hon yn fwy addas i athrawon gyda phrofiad yn y maes, byddwn â diddordeb hefyd mewn ymgeiswyr cryf, sydd yn fodlon derbyn sialens arweiniol o fewn ysgol sy’n cynnig hyfforddiant, cynhaliaeth ac arweiniad bellach.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Mr Matthew Evans.
Proses Ymgeisio
Gellir ymgeisio am y swydd hon drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd â’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghŷd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol.
Dyddiad Cau: Hanner Dydd, Dydd Mawrth, 7 Chwefror 2023
Dyddiad dechrau y swydd: 1 Medi 2023
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.