Swydd: Athro / Athrawes Dylunio a Thechnoleg
(yn ddelfrydol: dylunio cynnyrch)
Graddfa Cyflog Athrawon
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi athro/awes frwdfrydig i swydd barhaol llawn amser yn yr Adran Ddylunio & Thechnoleg. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â’r gallu i addysgu dosbarthiadau CA4 a CA5 yn y pwnc.
Mae’r adran yn llwyddiannus yn TGAU a Safon Uwch gan sicrhau fod y sylfaen a osodir yn CA3 yn annog a herio disgyblion i safonau cyson uchel. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gweledigaeth glir o egwyddorion Dysgu ac Addysgu dynamig a blaengar a’r sgiliau rhyngbersonol i gydweithio fel aelod o dîm effeithiol a brwdfrydig. Mae’r adran yn gyffrous i gynnig ehangder cyrsiau o fewn maes dylunio a thechnoleg er mwyn ymateb i anghenion disgyblion a bydd hyn yn golygu cyfleoedd i gynnig cyrsiau newydd yn y dyfodol mewn ymateb i anghenion creadigol ac addysgol ein plant a’n pobl ifanc. Byddwch yn ymuno â thîm brwdfrydig ac effeithiol o fewn yr adran, sy’n hwyluso gwaith ei gilydd mewn ysbryd cymhellgar a brwdfrydig. Yn ogystal mae'r adran yn flaengar iawn i sicrhau profiadau allgyrsiol sy'n herio a chyfoethogi profiadau addysgol y disgyblion. Byddai gallu cyfrannu at y ddarpariaeth eang hon yn fantais arbennig.
Mae’r ysgol yn edrych ymlaen gyda brwdfrydedd i weld sut byddwn yn gallu gwella ac addasu ein ffyrdd o ddarparu ac addysgu ein pobl ifanc i’r dyfodol. Mae hyn yn arbennig o wir wrth ystyried datblygiad Cwricwlwm i Gymru a’r modd mae sgiliau newydd yn gallu hyrwyddo a datblygu galluoedd ein disgyblion yn y blynyddoedd i ddod.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Mr Matthew Evans yn yr ysgol.
Proses Ymgeisio
Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd a’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghyd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol.
Dyddiad Cau: Hanner Dydd, Dydd Mawrth, 7 Chwefror 2023
Dyddiad dechrau y swydd: Medi 1af 2023
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.